Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Hydref 2020
Amser:
14.30 -
16.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6556
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Siân Gwenllian AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS Nick Ramsay AS |
Tystion: |
Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru David Meaden, Public Services Ombudsman for Wales Office Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Suzy Davies AS, Comisiynydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Joanne McCarthy (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 FIN(5)-18-20 PTN 1 - Llythyr gan y Prif Weinidog at y Llywydd: Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 - 28 Medi 2020
2.2 PTN 2 - Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol - 21 Medi 2020
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynllun Gwaith Polisi Treth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 - 29 Medi 2020
2.4 PTN 4 - Llythyr gan Archwilio Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau - Cymhwysedd Deddfwriaethol - 30 Medi 2020
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22 Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Suzy Davies AS, sef y Comisiynydd dros y Gyllideb a Llywodraethiant; Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd; a Nia Morgan, y Cyfarwyddwr Cyllid ynghylch craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22.
3.2 Cytunodd y Comisiwn i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am ei strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu; a rhoi rhagor o fanylion am ailstrwythuro swyddi penodol o fewn y Gyfarwyddiaeth Ymgysylltu.
4 Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22: Sesiwn dystiolaeth
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; Chris Vinestock, Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella; a David Meaden, Cyfrifydd Ariannol Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a dechrau cyfarfod y Pwyllgor ar 12 Hydref.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Amcangyfrif Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2021-22: Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22 Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.